Yma am byth
Here for good
Mae rhodd yn eich ewyllys yn fwy na dim ond rhodd. Mae'n gyfle i adael eich marc ar ddyfodol Cymru.
Helpu mwy o bobl i ddeall sut y gallai eu hetifeddiaeth wneud gwahaniaeth yng Nghymru
Beth yw Yma am Byth | Here for Good?
Mae Yma am Byth | Here for Good yn ymgyrch sy’n seiliedig ar un cwestiwn syml sy’n werth ei ofyn wrth i chi ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys: “A hoffech chi i unrhyw rodd elusennol yn eich ewyllys fod o fudd i Gymru?”
Caiff hyn ei gynnal gan y grŵp o elusennau Cymreig a’i sefydlodd – o ymchwil i ganser i bêl-droed, o ariannu ar lefel gymunedol i wasanaethau brys.
Ond nid yw hyn yn ymwneud â nhw yn unig. Mae’n ymwneud ag unrhyw ran o Gymru sy’n bwysig i chi: eich stryd, eich tref, eich cymuned, neu’r wlad gyfan.
Pam fod hyn yn bwysig?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn tybio y bydd rhodd y maen nhw’n ei gadael i achos sy’n bwysig iddyn nhw yn aros lleol.
Ond nid felly bob amser. Gall elusennau â’r un enw, geiriad aneglur, ac esgeulustod syml olygu bod rhodd a fwriadwyd ar gyfer Cymru yn mynd i gefnogi achos mewn rhan arall o’r DU.
Cymerwch Cancer Research Wales, er enghraifft. Mae’n elusen hollol annibynnol ar Cancer Research UK. Ni fydd rhodd a fwriadwyd ar gyfer un yn mynd i’r llall yn awtomatig oni bai ei bod wedi’i henwi’n gywir.
Nid ydyn ni yma i wneud i unrhyw un deimlo’n euog, ac yn sicr dydyn ni ddim yma i ddweud wrthych chi ble dylai eich arian fynd. Rydyn ni’n credu ei bod hi werth sicrhau bod eich rhodd yn cyrraedd yr union le yr oeddech wedi bwriadu.
Beth allwch chi ei wneud?
Dim ond ychydig funudau sydd angen i wirio os yw’r modd y mae eich rhodd wedi ei geirio yn ddigon clir i sicrhau ei bod yn aros yng Nghymru.
Mae hi werth gwybod bod modd i chi gynnwys rhodd i Gymru, os yw hynny’n bwysig i chi.
Rydych chi mewn sefyllfa unigryw i godi’r mater hwn yn naturiol, ac ar yr adeg pan mae bwysicaf.