I weithwyr proffesiynol
Sicrhewch fod rhoddion eich cleientiaid yn cyrraedd y man cywir
Sicrhewch fod rhoddion eich cleientiaid yn cyrraedd y man cywir
Mae’r mater o roi i elusennau yn aml yn codi wrth lunio ewyllys, ond anaml y caiff y cwestiwn hwn ei ofyn: a yw’r cleient eisiau i’w rhodd fod o fudd i Gymru yn benodol?
Sicrhewch fod rhoddion eich cleientiaid yn cyrraedd y man cywirMae’n hawdd methu hyn, er gwathaf ymdrechion, ac mae’n costio’n sylweddol i Gymru bob blwyddyn.
Y broblem
Mae llawer o roddion ar gyfer Cymru yn cefnogi achosion mewn mannau eraill yn y DU yn y pen draw.
Nid yw hyn fel arfer yn digwydd yn fwriadol. Mae’n digwydd oherwydd geiriad aneglur, dryswch gydag enwau elusennau tebyg, neu oherwydd na chafod y cwestiwn hwn ei ofyn.
Er enghraifft, mae Ymchwil Canser Cymru yn wahanol i Cancer Research UK. Heb eirio’r rhodd yn fanwl gywir, efallai na fydd ewyllys cleient ar gyfer un yn cyrraedd y llall.
Pam fod hyn yn bwysig i chi
Rydych chi’n trafod rhoddion elusennol mewn ffordd gyffredinol yn barod; dim ond un cwestiwn penodol a naturiol arall yw hwn i’w gynnwys.
Mae helpu i rodd rhywun adlewyrchu’r hyn sydd wir yn bwysig iddyn nhw yn rhan o’r cyngor trylwyr a meddylgar rydych chi’n ei ddarparu.
Mae cleientiaid yn hoffi gwybod i ble mae eu rhodd yn mynd, pwy mae’n ei helpu, a pha wahaniaeth mae’n gwneud. Mae gallu ateb hynny’n glir yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Sut i grybwyll y pwnc yn naturiol
Yn aml, dim ond awgrym syml sydd ei angen: “Hoffech chi i unrhyw rodd elusennol yn eich ewyllys fod o fudd i Gymru yn benodol?”
Ac yna
- Helpwch gleientiaid i enwi’r achos, y sefydliad, neu’r math o le yng Nghymru y maent am gefnogi.
- Tynnwch sylw at y risg o ddrysu rhwng elusennau â’u henwau lle bo hynny’n berthnasol (er enghraifft, Ymchwil Canser Cymru vs. Cancer Research UK).
- Anogwch gleientiaid sy’n adolygu ewyllysiau presennol i wirio bod y geiriad presennol yn adlewyrchu eu dymuniadau o hyd.
Adnoddau i chi
- Awgrymiadau ac arweiniad ar gyfer cynnal sgyrsiau er mwyn trafod y mater gyda chleientiaid
- Enghreifftiau o eiriad i helpu i sicrhau bod rhoddion yn cael eu cyfeirio’n glir
- Gwybodaeth am yr elusennau partner a sefydlodd hyn, i’w defnyddio fel enghraifft pan fydd cleientiaid yn holi am achosion yng Nghymru