Eich gwaddol, eich rhodd i Gymru
Mae rhodd yn eich ewyllys yn fwy na rhodd ariannol yn unig. Mae'n farc personol, sy'n cael ei adael ar ddyfodol y bobl, y llefydd a'r achosion rydych chi'n eu caru. Boed yn stryd, yn dref, neu yn Gymru gyfan, chi sy'n dewis.
Y broblem, yn syml
Dyma gwestiwn efallai nad ydych chi wedi gorfod ateb o’r blaen: a fydd y rhodd yn eich ewyllys wir yn aros yng Nghymru, neu a allai fynd i rywle arall yn gyfan gwbl?
Mae’n rhywbeth hawdd iawn i’w fethu. Wrth ysgrifennu ewyllys, rhaid i chi ateb llawer o gwestiynau: pwy fydd yn etifeddu, pwy fydd yr ysgutor, a beth yw eich dymuniadau. Ond anaml y cewch chi gwestiwn yn ymwneud ag os y dylai rhodd elusennol fod o fudd i Gymru yn benodol.
Heb ateb hyn, gall rhodd fynd i rywle arall yn y DU, hyd yn oed pan nad hynny oedd gennych chi mewn golwg.
Pryd i ystyried hyn
Mae cyfnodau naturiol mewn bywyd pan y mae hi werth ystyried hyn:
Yn aml, mae ymdeimlad newydd o le yn rhoi syniad newydd i chi o’r hyn sy’n bwysig.
Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl o ddifrif am ewyllys ar ôl dechrau teulu.
Mae colli rhywun agos yn aml yn annog pobl i ystyried eu dymuniadau eu hunain.
Mae’r adegau hyn hefyd yn gyfle naturiol i chi wirio ei bod yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i chi o hyd.
Eich dewis, eich Cymru
Does dim pwysau, dim ond opsiwn y dylid bod yn ymwybodol ohono.
Gallwch ddewis:
Eich ardal leol: Grŵp cymunedol, hosbis, neu achos sy’n agos at adref.
Achos penodol: Rhywbeth personol, fel ymchwil i ganser neu ofal brys.
Cymru gyfan: Cefnogi’r wlad rydych chi’n ei galw’n gartref, sut bynnag rydych chi’n diffinio hynny.
Beth bynnag rydych chi’n ei ddewis, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gadael y rhan fwyaf o’u hystâd i deulu a ffrindiau. Mae rhodd i Gymru yn bodoli ochr yn ochr â hynny. Mae’n rhywbeth ychwanegol, nid yn rhywbeth sy’n cymryd lle unrhywbeth arall.
Beth i’w wneud nesaf
Edrychwch ar eich ewyllys bresennol: A yw’n sôn am rodd elusennol, a ble byddai’n mynd?
Sgwrsiwch â’ch cyfreithiwr: Gofynnwch iddynt nhw: a fydd fy rhodd bendant yn aros yng Nghymru?
Byddwch yn glir: Mae enwi’r achos neu’r sefydliad yn benodol yn helpu i sicrhau bod eich rhodd yn cyrraedd y lle iawn.